Ein Haddewidion i chi

Mae pleidlais dros LAFUR Cymru yn bleidlais

O blaid Bargen Newydd Werdd

Rydym yn wynebu Argyfwng yr Hinsawdd. Yn yr etholiad hwn, mae’r dewis yn glir. Dyma ein cyfle olaf i weithredu i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Bydd Bargen Newydd Werdd Llafur yn cynnwys y targedau mwyaf uchelgeisiol ynghylch yr hinsawdd o blith holl wledydd y byd.

O blaid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Ganwyd y GIG yng Nghymru a chafodd ei sicrhau gan y Blaid Lafur. Dim ond Llafur fydd yn ariannu ac yn diogelu’r GIG yn llawn; rhoi diwedd ar breifateiddio’r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio yn Lloegr a pharhau i amddiffyn gwasanaethau yng Nghymru.

O blaid Tai

Adeiladu cartrefi newydd gwirioneddol fforddiadwy yn Sir Drefaldwyn gan gynnwys y rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf ers cenedlaethau ledled y DU. Cyflwyno hawliau tenantiaid newydd a chap ar renti.

I fuddsoddi yng Nghenedlaethau’r Dyfodol

Yng Nghymru, bydd Llafur yn parhau i ddarparu gofal plant i rieni sy’n gweithio, y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf yn y DU, a chymorth i fyfyrwyr prifysgolion gan gynnwys grantiau a gefnogir gan y llywodraeth.

I roi terfyn ar Gyni

Terfyn ar dlodi ‘mewn gwaith’. Terfyn ar Gredyd Cynhwysol a rhewi budd-daliadau.  Terfyn ar fethiant i ddarparu gofal angenrheidiol i bobl hŷn trwy gyflwyno Gwasanaeth Gofal Gwladol.

Adeiladu economi i’r llawer, nid i’r ychydig

Diddymu’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.  Cyflwyno Cyflog Byw go iawn a phecyn cynhwysfawr o hawliau gweithwyr. Bargen newydd ar gyfer y Lluoedd Arfog.

Rhoi’r gair olaf i bobl ynghylch Brexi

Bydd Llafur yn rhoi cyfle arall i’r bobl bleidleisio ynghylch Brexit – a bydd Llafur Cymru yn ymgyrchu dros aros.

Mae’n bryd cael newid go iawn

Mae’r dewis yn glir – Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan er budd yr ychydig bobl freintiedig, neu Llywodraeth Lafur er budd y llawer.  Yr etholiad hwn yw ein cyfle i ddechrau o’r newydd â Llywodraeth Lafur. Yn lle gwlad sy’n cael ei rhedeg er budd cyfoethogion, bydd Llafur yn adeiladu gwlad ble gall pawb ohonom ni fyw bywydau cyfoethocach.

Teyrnas Unedig i’r llawer, nid i’r ychydig / A UK for the many, not the few

Mae’r llygrwyr mawr, y bancwyr a’r sawl sy’n osgoi talu trethi wedi cael mantais annheg ers gormod o amser. Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar y toriadau i gyllideb Cymru, â buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom ni’n dibynnu arnyn nhw

“Pleidlais dros Lafur yn Sir Drefaldwyn yw’r unig ffordd i sicrhau nad yw San Steffan yn anwybyddu ein hanghenion lleol.

Mae’r Ceidwadwyr yn credu eu bod wedi’u geni i lywodraethu. Byddan nhw’n gofalu am fuddiannau’r ychydig bobl freintiedig yn unig. Mae record y Democratiaid Rhyddfrydol yn y

Published by

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s